Leanne Wood

Leanne Wood
Wood yn 2016
Arweinydd Plaid Cymru
Yn ei swydd
16 Mawrth 2012 – 28 Medi 2018
ArlywyddDafydd Wigley
DirprwyElin Jones
CadeiryddHelen Mary Jones
Dafydd Trystan Davies
Alun Ffred Jones
Rhagflaenwyd ganIeuan Wyn Jones
Dilynwyd ganAdam Price
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad
Yn ei swydd
5 Mai 2016 – 14 Hydref 2016
TeyrnElizabeth II
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganAndrew R. T. Davies
Dilynwyd ganAndrew R. T. Davies [1]
Aelod o Senedd Cymru
dros Rhondda
Yn ei swydd
6 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganLeighton Andrews
Dilynwyd ganBuffy Williams
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Rhanbarth Canol De Cymru
Yn ei swydd
1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016
Rhagflaenwyd ganPauline Jarman
Dilynwyd ganNeil McEvoy
Manylion personol
Ganwyd (1971-12-13) 13 Rhagfyr 1971 (52 oed)
Llwynypia
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
PriodIan Brown
Plant1
Alma materPrifysgol Morgannwg
GwefanGwefan swyddogol

Gwleidydd Cymreig a chyn-arweinydd Plaid Cymru yw Leanne Wood (ganed 13 Rhagfyr 1971). Bu'n cynrychioli Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Canol De Cymru rhwng 2003 a 2016. Cipiodd sedd y Rhondda yn etholiad y Cynulliad, 2016 ond ni chafodd ei hail-ethol yn Etholiad Senedd Cymru, 2021. Bu'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ac yn llefarydd Plaid Cymru ar Dai ac Adfywio.

Fe'i ganed yn Llwynypia yn y Rhondda. Mae hi'n weriniaethwr ac yn sosialydd o argyhoeddiad ac fe ddysgodd Cymraeg fel oedolyn. Mae hi hefyd yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus Searchlight Cymru.

Gorfodwyd iddi adael siambr y cynulliad ar ôl iddi gyfeirio at frenhines y DU wrth ei henw personol, sef Mrs Windsor, yn hytrach na "The Queen", a hynny oherwydd ei daliadau gwleidyddol fel gweriniaethwraig Gymreig.[2]

  1. Gwag 14 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2017
  2. BBC News

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search